Sut i hawlio cymorth oddi wrth gyn bartneriaid sy'n byw dramor
A oes angen i chi hawlio cymorth ariannol oddi wrth gyn bartner sydd bellach yn byw dramor - naill ar gyfer eich plant neu ar eich cyfer chi? Mae gan Brydain drefniadau gyda rhagor na 100 o wledydd a thiriogaethau er mwyn i chi allu gwneud hyn.
Gelwir y broses hon yn 'Orfodaeth Ddwyffordd gyda Gorchmynion Cynnaliaeth' (REMO). Os ydy'ch cyn bartner yn byw erbyn hyn mewn gwlad neu diriogaeth sy'n rhan o'r trefniant hwn gyda'r DU, bydd eich llys yn eich helpu i wneud cais am gael cynhaliaeth ganddo/ganddi.
Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am REMO yng ngweddill y DU, edrychwch ar ddiwedd y daflen hon.
Pa wledydd sy'n rhan o'r trefniant?
Dros 100 o wledydd a thiriogaethau ar draws y byd. Mae'r rhain yn cynnwys
Awstralia, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Cyprus, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen,
Groeg, Hong Kong, Hwngari, India, Iwerddon, Israel, yr Eidal, Jamaica, Maleisia,
Mecsico, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Nigeria, Norwy, Pacistan, Gwlad
Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Serbia, Singapore, De Affrica, Sbaen, Sweden,
y Swistir, Twrci ac UDA.
Os ydy'ch cyn bartner mewn gwlad nad yw wedi'i chynnwys ar y rhestr, defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd yr arweiniad hwn i ganfod a oes gan y DU drefniant gyda'r wlad honno.
Faint fydd yn ei gostio?
Fel arfer nid oes tâl am orfodi gorchmynion cynhaliaeth dramor.
Faint o arian alla i wneud cais amdano?
Bydd eich llys yn ystyried eich amgylchiadau personol a gall benderfynu
faint o arian y mae ei angen arnoch gan eich cyn bartner. Fodd bynnag, gall
eich cyn bartner herio'r swm hwn os yw'n dymuno.
Sut ydw i'n gwneud hawliad?
Os oes gennych orchymyn llys eisoes ar gyfer cynhaliaeth
a gafwyd tra oedd eich cyn bartner yn dal i fyw yn y wlad hon, dylech fynd
i'r llys a wnaeth y gorchymyn hwnnw. Efallai y bydd y broses REMO yn ceisio
gorfodi'r gorchymyn sydd gennych eisoes dramor.
Os nad oes gennych orchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth yn barod (os mai asesiad y CSA sydd gennych yn unig, er enghraifft) dylech gysylltu â'ch llys ynadon lleol neu eich llys achosion teulu lleol ynghylch gwneud cais am gynhaliaeth gan eich cyn bartner sy'n byw dramor.
Mae cyfeiriadau a rhifau ffôn y llysoedd yn y llyfr ffôn neu ar wefan y Gwasanaeth Llys.
Fydd angen twrnai arna'i?
Na. Gallwch wneud eich cais yn syth drwy'r llys, heb ddefnyddio twrnai.
Sut mae'r broses yn gweithio?
Bydd eich llys yn eich helpu i baratoi eich cais. Bydd y llys yn anfon y
cais i'r Official Solicitor & Public trustee (OSPT), yr adran yn y llywodraeth
sy'n gyfrifol am y broses. Bydd yr OSPT yn anfon y cais wedyn at yr awdurdod
perthnasol yn wlad lle mae'ch cyn bartner yn byw erbyn hyn er mwyn dechrau
cael taliadau cynhaliaeth oddi wrtho/wrthi
Unwaith y derbynnir eich cais gan yr awdurdod priodol yn y wlad dramor, byddant yn ei drin yn unol â chyfreithiau a rheoliadau'r wlad honno.
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Bydd eich llys a'r OSPT yn prosesu eich cais cyn gynted ag y gallant. Fodd
bynnag, unwaith yr anfonir eich cais i'r awdurdodau tramor, bydd yn cael
ei drin yn unol â chyfreithiau a gweithdrefnau'r wlad honno ac nid
oes gennym unrhyw reolaeth dros yr amser y bydd y broses yn ei chymryd.
Dydy manylion cyswllt fy nghyn bartner ddim gen i. Ydy'n bosibl
dod o hyd iddo/iddi?
Dylech ddarparu cymaint â phosibl o wybodaeth yn eich cais am ble
mae'ch cyn bartner yn byw, er bod rhai gwledydd yn gallu dod o hyd i bobl
yn llwyddiannus gydag ychydig o fanylion. Byddai llun o'ch cyn bartner yn
ddefnyddiol hefyd.
Oes angen i mi gyfieithu dogfennau?
Na. Os bydd angen cyfieithu unrhyw ddogfennau, bydd yr OSPT yn trefnu hyn
heb ddim cost i chi.
Rhagor o Gymorth
I gael rhagor o gyngor am unrhyw agwedd ar gael cynhaliaeth o dramor neu
i gael mwy o gopïau o'r daflen hon, cysylltwch â'r:
REMO
Official Solicitor & Public Trustee
81 Chancery Lane
London WC2A 1DD
Rhif ffôn
0845 345 5303
(codir pris galwad lleol)
I gael rhagor o wybodaeth am REMO yn yr Alban, cysylltwch â:
Gweithrediaeth
yr Alban
Yr Adran Ryngwlhyfiawnder Sifil
St Andrew's House
Regent Road
Caeredin
EH1 3DG
Rhif ffôn
0131 556 8400
I gael rhagor o wybodaeth am REMO yn Gogledd Iwerddon, cysylltwch â:
Gwasanaeth
Llys Gogledd Iwerddon
Windsor House
Bedford Street
Belfast
BT12 7LT
Rhif ffôn
028 9032 8594