Ydych chi'n colli eich tymer pan na fyddwch yn cael
eich ffordd eich hun? Neu ydych chi'n pwdu gyda
phawb am wythnos? Rhowch gynnig ar y cwis
cyflym hwn i ddarganfod pa mor dda ydych wrth
siarad am eich teimladau.
1
Rydych yn
symud tŷ ac mae'n rhaid i chi fynd i ysgol newydd. Mae eich Mam yn
poeni ynglŷn â sut y byddwch yn ymdopi ac mae'n eich holi drwy'r
amser. Ydych chi'n:
(a)
dweud eich bod yn
iawn (hyd yn oed os nad ydych yn iawn). Nid ydych am iddi boeni hyd
yn oed yn fwy.
(b)
Dweud wrthi am roi'r
gorau i holi a gadael llonydd i chi.
(c)
Dweud eich bod yn
falch ei bod wedi gofyn i chi a dweud wrthi bod rhai pethau yn eich
poeni.
2
Ers i'ch
Mam a'ch Tad wahanu, mae eich Mam wedi mynd yn llawer mwy llym. Pan oedd
Dad yn byw gyda chi, roeddech yn arfer mynd i'r sinema ar nosweithiau
Sadwrn gyda'ch ffrindiau. Nawr ni chewch fynd allan o gwbl. Ydych chi'n:
(a)
Aros i mewn a phwdu
(b)
Gweiddi “Rwy'n
casáu byw gyda thi, rwy'n mynd i fyw gyda Dad!”
(c)
Ceisio siarad â'ch
Mam a gofyn iddi eich helpu i ddeall pam bod hawl gennych i fynd
allan o'r blaen ond nid nawr. Ceisiwch ddangos iddi, er bod pethau
wedi newid, nad ydych chi wedi newid. Gall eich Mam ymddiried ynoch
o hyd.
3
Bob tro
rydych yn dod nôl ar ôl penwythnos gyda'ch mam, mae eich Tad yn ceisio
holi am ei pherthynas gyda'i chariad newydd. Ydych chi'n:
(a)
Creu storïau bod
pethau yn mynd yn wael hyd yn oed os nad ydynt
(b)
Dweud wrtho am roi'r
gorau i holi a cherdded allan mewn tymer
(c)
Egluro wrtho pam bod
siarad am y peth yn gwneud i chi deimlo'n anghysurus
4
Rydych yn
mynd i aros gyda'ch Tad bob penwythnos. Mae gennych berthynas dda ond
rydych yn colli allan ar yr hyn y mae eich ffrindiau yn ei wneud. Ydych
chi'n:
(a)
Parhau i fynd i dŷ
eich Tad fel arfer. Nid ydych am frifo ei deimladau
(b)
Peidio â mynd i'w
weld pan fydd eich ffrindiau yn gwneud rhywbeth mwy diddorol
(c)
Egluro i'ch Tad, er
eich bod am ei weld o hyd, yr hoffech weld eich ffrindiau weithiau
hefyd.
5
Mae eich
llys-chwaer yn eich gyrru'n wallgof, yn mynd â'ch pethau neu'n
benthyg eich dillad heb ddweud wrthych. Ydych chi'n:
(a)
Goddef y sefyllfa:
nid ydych am achosi cweryl.
(b)
Rhoi popeth dan glo a
bygwth gwneud rhywbeth cas iddi.
(c)
Gofyn iddi ddychmygu
sut y byddai hi'n teimlo pe baech yn gwneud yr un peth iddi hi.