Efallai y bydd yn rhaid i chi ddod i arfer â byw gyda phobl newydd. Sut deimlad yw
hynny? |
“I ddechrau, roedd yn hunllef gorfod byw gyda nhw pan nad oeddech hyd yn oed yn eu 'nabod”
Charlotte, 12 oed
“Er na wyf yn nhyˆ Dad drwy'r amser, rwy'n teimlo'n gartrefol yno oherwydd rwy'n cadw fy mhethau fy hun
yno.”
Emma, 14 oed
“Mae ganddyn nhw reolau nad ydych yn eu deall neu nad ydych wedi arfer â hwy.”
Sian, 14 oed
Cadwch rai o'ch hoff bethau o'ch cwmpas i wneud i chi deimlo'n
hapusach.
Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi gael gwared ar unrhyw bethau hyd yn oed os byddan nhw yn gwneud eich Mam neu'ch Tad yn drist. Eglurwch iddyn nhw eu bod yn gwneud i CHI deimlo'n well.
Os na allwch gael eich ystafell eich hun, gwnewch yn
siˆwr bod gennych le i gadw eich pethau eich hun. |
|
beth sydd mewn
enw?
Dychmygwch bod gan eich Mam neu'ch Tad gariad newydd. Efallai
bod eich Mam
neu'ch Tad yn ailbriodi neu efallai bod gwˆr neu wraig newydd eich
Mam neu'ch Tad a'u plant yn dod i fyw gyda chi. Beth ddylech chi eu galw? A sut y byddwch yn eu disgrifio i'ch
ffrindiau?
“Rwy'n galw cariad Mam yn Wncwl Sylvester. Rwy'n gwybod nad yw e'n Wncwl go iawn i mi ond rydym ni'n ei hoffi.”
Jamal, 6 oed
“Mae'n fy ngwylltio pan fydd fy llys-chwaer yn galw fy Nhad yn Dad. Fy Nhad i yw e, ni ei Thad hi.” Leon, 9 oed
“Rwy'n galw Winston yn ôl ei enw. Er ei fod yn debyg i dad, nid ef yw fy Nhad.” Matt, 15 oed
“Roeddwn am gael yr un cyfenw â Mam, fy llys-dad a'm llys-frawd. Mae'n grêt ei fod wedi newid nawr achos rwy'n uwch ar y gofrestr.”
Ellie, 14 oed |