This is archived web content selected for preservation by The National Archives. This snapshot was taken on 03/04/2007. See all dates available for this archived website. External links, forms and search boxes may not function within these archived websites.
Find more about web archiving at The National Archives.

Department for Constitutional AffairsLegal policy

Home > Publications > Forms & Guidance
Mae fy nheulu'n newid
*
Y dudalen flaenorol * Tudalen nesaf
*

Ffeithiau ar flaenau eich bysedd

Bullet * Mae rhieni tuag un plentyn o bob pedwar yn ysgaru.
* * *
Bullet * Mae tua 650 o blant yn gweld eu rhieni yn gwahanu neu'n ysgaru bob dydd.
* * *
Bullet * Mae 1.5 miliwn o blant yn ymweld â rhiant ar y penwythnosau neu yn ystod y gwyliau.
* * *
Bullet * Bellach, mae dros 2.5 miliwn o blant yn cael eu magu fel rhan o lys-deulu.
* * *
Bullet * Mae gan tua 300,000 o blant rieni a fu'n briod â phobl eraill yn y gorffennol.

Beth fydd yn digwydd pan fydd rhieni yn ysgaru?

Dim ond trwy gael gorchymyn gan y Llys Sirol y gellir dod â phriodas i ben. Llys Sirol yw llys ar gyfer eich ardal leol, ac mae'n wahanol iawn i'r llysoedd sy'n delio â throseddau.

Fel arfer, nid oes angen i unrhyw un fynd i'r llys er mwyn cael ysgariad oherwydd, fel arfer, gellir delio â phethau drwy'r post.

Hwyrach y bydd eich rhieni yn siarad â chyfryngwyr (pobl wedi eu hyfforddi i helpu rhieni i ddod i gytundeb) neu'n cael cyngor gan gyfreithwyr (arbenigwyr ar y gyfraith) ynglˆyn â'r ffordd orau i gytuno ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol - pethau fel arian, lle y bydd pobl yn byw, ac yn bwysicach na dim, trefniadau ar eich cyfer chi.

Weithiau bydd rhieni yn ei chael hi'n rhy anodd i gytuno ar drefniadau ar gyfer y dyfodol felly gall barnwr wneud penderfyniadau ar eu rhan. Gelwir y rhain yn Orchmynion Llys.

Hwyrach y gofynnir i'r barnwr wneud trefniadau am breswylfan (gyda phwy y byddwch yn byw) neu gyswllt (y trefniadau ar gyfer cael cyswllt gyda'r rhiant nad yw'n byw gyda chi bellach).

Er mwyn gwneud hyn, hwyrach y byddant yn gofyn i Gofnodwr Plant a Theulu o Wasanaeth Cynghori a Chymorth Llys Plant a Theulu i siarad â chi a'ch rhieni ac yna rhoi cyngor i'r llys ar y trefniadau gorau.

Pan fydd gan y barnwr yr holl wybodaeth i wneud penderfyniad, hwyrach y trefnir Gwrandawiad Llys i drafod y trefniadau. Cyfarfod rhwng y barnwr a'ch rhieni i wrando ar yr hyn sydd gan bawb i'w ddweud yw Gwrandawiad Llys. Fel arfer, ni elwir plant i'r llys gan mai cyfrifoldeb y Cofnodwr Plant a Theulu yw sicrhau y trosglwyddir safbwyntiau'r plant i'r barnwr.

 

Gall fod yn anodd ac yn drist iawn pan fydd eich rhieni yn gwahanu. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o blant, gydag amser, yn gweld bod pethau'n gwella ac yn y pen draw gallant deimlo'n iawn ynglˆyn â'r hyn a ddigwyddodd.
*
Y dudalen flaenorol * Tudalen nesaf